P-04-614Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains
Cymru
Credir y bydd Trenau Arriva Cymru yn cyhoeddi cyn bo
hir eu bwriad i ddod â'u gwasanaeth dosbarth cyntaf rhwng
Caergybi a Chaerdydd i ben. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o'u
gwasanaeth 'Premier', sy'n rhedeg bob diwrnod gwaith.
Mae'n debyg mai ymateb fydd hyn i benderfyniad
Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth hwn ddechrau
2015.
Mae'r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i
ailystyried eu penderfyniad i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth
gwerthfawr a phoblogaidd hwn, neu o leiaf i annog Trenau Arriva
Cymru i barhau â'r gwasanaeth cystal ag y gallant drwy
ddulliau eraill.
Gwybodaeth Ychwanogol
Y gwasanaeth dosbarth cyntaf hwn gan Trenau Arriva
Cymru (neu wasanaeth Gerallt Gymro, fel y caiff ei alw hefyd) yw un
o'r ychydig wasanaethau rheolaidd ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain
sy'n parhau i gynnig prydau bwyd o safon.
Byddai'n drueni mawr colli'r gwasanaeth hwn, nid yn
unig o safbwynt y teithwyr, ond hefyd o safbwynt y staff a'r criw
ar y trên sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod teithio
ar y trên hwn yn brofiad mor werth chweil.
Prif ddeisebydd: Gareth Peate
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y
Pwyllgor:
Nifer y llofnodion: 54